AMDANOM NI

Rydym ni wedi bod yn datblygu gwefannau deniadol a chwbl weithredol ar ran ystod o fusnesau a phrosiectau ers 2014. Gan ddefnyddio WordPress, gallwn greu gwefannau o bob math yn amrywio o flogiau i eFasnach i brosiectau mwy anturus sy'n hawdd i chi eu diweddaru a'u rheoli yn ôl yr angen.

GWASANAETHAU

DATBLYGU

Datblygwyr gwe ydym ni yn bennaf. Rydym ni’n arbenigo mewn creu gwefannau sy’n edrych yn wych, yn hawdd i’w defnyddio, yn hawdd i'w rheoli ac yn ddeniadol. Rydym yn creu pob math o wefannau, o wefannau syml llawn gwybodaeth i wefannau sy’n llawn nodweddion gwahanol er mwyn rhedeg a rheoli eich prosiect. Rydym ni wrth ein bodd gyda her, felly gadewch i ni wybod beth sydd arnoch ei angen a gallwn weld sut y gallwn ddod â’ch syniad yn fyw.

GWE-LETYA

Rydym yn darparu'r gwasanaeth gwe-letya gorau posibl ar gyfer ein gwefannau gyda mynediad 99.99% o’r amser ac rydym ymhlith y darparwyr gorau ar gyfer amseroedd llwytho cyflym. Gellir addasu’r cynlluniau gwe-letya i weddu i wahanol raddfeydd gan olygu ein bod yn gallu delio gydag unrhyw nifer o ymwelwyr misol, gan gadw eich gwefan yn rhedeg yn gyflym ac ar-lein. Fel bonws ychwanegol, mae ein partneriaid gweini yn cyfateb 100% o'r ynni a ddefnyddir gydag ynni adnewyddadwy. Gallwn hefyd gynnal a diweddaru eich gwefan ar eich rhan.

DIOGELWCH

Mae gan bob un o'n gwefannau dystysgrif Haenen Socedi Diogel (SSL). Mae'n rhaid i bob gwefan fodern gael hon. Yn ogystal â diogelu eich gwefan, bydd hefyd yn gwella eich sgôr SEO er mwyn i’ch gwefan ymddangos yn uwch ar restr peiriannau chwilio fel Google, ac yn meithrin ymddiriedaeth ymysg eich cwsmeriaid gyda’r symbol clo clap adnabyddus, heb fod angen rhybuddion diogelwch gan y porwr.

E-FASNACH

Rydym yn arbenigo mewn E-Fasnach. P'un a yw hynny’n ymwneud â siopau ar-lein, lawrlwythiadau digidol, systemau archebu, rhoddion neu unrhyw beth arall sy'n prosesu arian, gallwn eich helpu i greu eich presenoldeb ar-lein. Rhaid i wefannau E-Fasnach ddarparu ar gyfer anghenion eich cwsmeriaid er mwyn sicrhau nad yw taliadau'n cael eu colli.

OPTIMEIDDIO PEIRIANNAU CHWILIO (SEO)

Mae Optimeiddio Peiriannau Chwilio yn hanfodol er mwyn ei gwneud hi’n haws i’ch darpar gleientiaid ddod o hyd i’ch busnes. Gallwn eich helpu i ddadansoddi eich gwefan, dod o hyd i eiriau allweddol, a gweld y traffig sy'n dod i mewn i sicrhau bod eich cwsmeriaid posibl yn gallu dod o hyd i chi.

PARTHAU

CYSWLLT